Ynni Lleol Gwyrfai
Ynni glân, lleol – yng nghalon Bro Gwyrfai
Beth yw Ynni Lleol Gwyrfai?
Mae Ynni Lleol Gwyrfai yn glwb ynni cymunedol newydd sbon, wedi’i sefydlu gan griw o wirfoddolwyr lleol o Fro Gwyrfai. Mae’n cysylltu cartrefi a busnesau bach yn uniongyrchol â chyflenwad hydro lleol – gan eich helpu i arbed arian ar drydan, tra’n cefnogi system ynni lleol sy’n wyrddach ac yn fwy gwydn.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am tua 10 o gartrefi a busnesau bach lleol i ymuno fel aelodau sylfaenol y clwb.
Pam ymuno?
Talu llai am eich trydan drwy ddefnyddio ynni sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol
Cefnogi’ch cymuned – gan gadw’r buddion o’r ynni yma yn lleol
Helpu’r blaned drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy o gynllun hydro lleol
Bod yn rhan o rywbeth newydd – a chynorthwyo i lunio dyfodol ynni lleol a thecach
Allwch chi ymuno?
Gallwch ymuno os ydych chi’n:
Byw o fewn y ffiniau sy'n ymddangos ar y map wrth ochor
Fod â mesurydd clyfar neu fod yn hapus i gael un wedi’i osod
Gallu newid eich cyflenwr trydan i’n partner, 100Green
Barod i gefnogi prosiect newydd – gyda’r ddealltwriaeth y gall fod ambell beth i’w lyfnhau i ddechrau
Os ydych chi’n meddwl bod hyn yn addas i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cliciwch ar y botwm isod i gofrestru’ch diddordeb: